Budd net i fioamrywiaeth

Mae’r datblygiad yn cynnig cyfle i gadw’r tir yn rhydd rhag plaladdwyr a chemegolion – gan alluogi rhywogaethau i ffynnu a gwella ansawdd y pridd.

O gymharu ag arferion ffermio dwys, mae fferm solar yn dod â buddion amlswyddogaethol cynhyrchu ynni yn gyfochrog â budd amgylcheddol net ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau.

Gyda gwaith plannu newydd sylweddol a chysylltedd ecolegol, byddai’r prosiect yn sicrhau budd net i fioamrywiaeth trwy:

  • Gwella coridorau cynefinoedd
  • Mwy o gyfleoedd chwilota
  • Annog peillwyr

Manteision y prosiect

Ymrwymiad Renantis yw darparu gwerth ychwanegol yn y cymunedau lle mae’n gosod ei brosiectau trwy weithredu rhaglenni sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy lleol, trwy amrywiol fesurau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, hyfforddi ac amgylcheddol.

Mae buddion ehangach y datblygiad arfaethedig fel a ganlyn:

Targedau lleol

Cynorthwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBRhCT) i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn unol â thargedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a’r Argyfwng Hinsawdd sydd wedi’i ddatgan.

Targedau’r DU

Gwneud cyfraniad pwysig at gyflawni targedau sero net cenedlaethol sy’n gyfreithiol rwymol erbyn 2050.

Diogelwch ynni

Cyfrannu tuag at ddiogelwch y gyflenwad ynni yn RhCT a Chymru drwy ddarparu cyflenwad ynni adnewyddadwy cost isel a gynhyrchir yn lleol.

Buddion i ffermwyr

Er ei bod yn debygol y bydd rhywfaint o bori defaid yn parhau ar y tir, mae’r prosiect ehangach yn rhoi cyfle i ffermwyr lleol arallgyfeirio eu gweithrediadau a sicrhau hyfywedd hirdymor eu fferm.

Rhanberchenogaeth

Cyfleoedd posibl ar gyfer rhanberchnogaeth, gan sicrhau bod y cymunedau sy’n cynnal y prosiect yn parhau i elwa o gynhyrchu ynni lleol.

Buddion i’r Gymuned

Rydym yn credu y dylai’r gymuned sydd agosaf at fferm solar gael budd ohoni ac sydd yn y sefyllfa orau i ddweud beth dylai’r budd cymunedol fod.
Boed hynny trwy gyllid ar gyfer y cymunedau o amgylch ein gweithfeydd ynni, perchnogaeth gymunedol o’n prosiectau neu sicrhau ein bod yn adeiladu ac yn cynnal ein datblygiadau gyda chymorth gan weithwyr a chyflenwyr lleol.
Hyd yma, rydym wedi darparu £1.37M drwy gynlluniau budd cymunedol yn y DU, Sweden, Norwy, Ffrainc a Sbaen, gan gefnogi dros 40 o gymunedau.
Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad cymunedol hwn i gychwyn trafodaeth gyda’r gymuned ynghylch sut olwg allai fod ar y buddion hynny, gan gynnwys y potensial ar gyfer rhanberchnogaeth.
Os oes gennych syniad am gynllun neu brosiect cynaliadwy yn y gymuned, yna rhowch wybod i ni trwy gysylltu â ni trwy’r ffurflen yma:

Cysylltu â ni