Y prosiect

Bydd Fferm Solar Glyn Taf i’r dwyrain o Bontypridd, yn darparu 39.9 Megawat brig (MWp) o ynni adnewyddadwy glân, di-garbon, sy’n cyfateb i ddarparu digon o bŵer i ddiwallu anghenion trydan blynyddol tua 12,000 o gartrefi.

Byddai bywyd gweithredol y datblygiad yn 35 mlynedd, a byddai’n darparu tua 18,000 tunnell o arbedion o ran allyriadau carbon a gwelliant sylweddol i fioamrywiaeth yn yr ardal.

Mae’r cais bellach wedi’i gofrestru gan PEDW. Gallwch ei weld yma gan ddefnyddio’r cyfeirnod CAS-03147-D7S9P8.

Dilynwch ein taith i ddatgarboneiddio

2021 – 2023

  • Dewis safle
  • Arolygon safle
  • Asesiadau amgylcheddol
  • Cytundeb perchennog tir wedi’i lofnodi

Gwanwyn 2024

  • Ymgysylltu cynnar â rhanddeiliaid
  • Astudiaethau dichonoldeb

Haf 2024

  • Ymgynghoriad anffurfiol

Gwanwyn 2025

  • Ymgynghoriad statudol ar gynigion manwl.
  • Cyflwyno’r cais i PEDW
  • Ymgynghoriad PEDW ar y Cais DNS

Gaeaf 2025

  • Penderfyniad ar y Cais DNS

Haf 2026

  • Gwaith adeiladu yn dechrau – disgwylir i hyn gymryd tua 12 mis

Hydref 2027

  • Fferm solar yn dod yn weithredol