Ymgynghoriad Ymgysylltu Cynnar

Ar 24 a 25 Mehefin 2024, cynhaliom ddigwyddiadau ymgynghori cymunedol yn yr ardal leol i gael eich barn a’ch syniadau ar y cynlluniau cychwynnol ar gyfer Fferm Solar Glyn Taf.

Mae’r ymgynghoriad bellach wedi cau.

Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd un o’n harddangosfeydd cyhoeddus ac a roddodd adborth amhrisiadwy i lywio cam nesaf y broses gynllunio.

Bydd adborth o’r ymgysylltu cynnar, ynghyd â chanlyniadau amrywiaeth o ymchwiliadau ac arolygon safle, yn ein helpu i fireinio ein cynigion, y byddwn yn eu rhannu â chi yn ystod yr ymgynghoriad statudol yn ddiweddarach eleni.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar ein byrddau arddangos, a ddangosom yn ein digwyddiadau cymunedol diweddar.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar ein byrddau arddangos (sylwer: cynhyrchwyd y byrddau hyn gan Renantis, sydd bellach wedi ailfrandio i Nadara)

 

 

Adborth

Os oes gennych unrhyw syniadau neu gwestiynau am y prosiect, gallwch gysylltu drwy:

E-bost – E-bostiwch eich sylwadau atom glyntaffPV@grasshopper-comms.co.uk

Ysgrifennu at: Rhadbost/Freepost GRASSHOPPER CONSULT (does dim angen stamp na chyfeiriad ychwanegol)

Ffonio – Rydyn ni yma i wrando ar eich barn. Gallwch siarad ag aelod o’r tîm drwy ffonio 01443 584238

Bydd adborth o’r ymgysylltu cynnar, ynghyd â chanlyniadau amrywiaeth o ymchwiliadau ac arolygon safle, yn ein helpu i fireinio ein cynigion, y byddwn yn eu rhannu â chi yn ystod yr ymgynghoriad statudol yn ddiweddarach eleni.

Rydym hefyd yn chwilio am adborth ar welliannau bioamrywiaeth ar gyfer y safle a syniadau ar sut y gallwn sicrhau bod y gymuned leol yn elwa o’r fferm solar newydd.