Y prosiect

Wedi’i lleoli i’r dwyrain o Bontypridd, bydd Fferm Solar Glyn Taf yn darparu 39.9Megawat brig (MWp) o ynni adnewyddadwy glân, di-garbon, sy’n cyfateb i ddarparu digon o bŵer i ddiwallu anghenion trydan blynyddol tua 12,000 o gartrefi.

Byddai bywyd gweithredol y datblygiad yn 35 mlynedd, gan ddarparu tua 18,000 tunnell o arbedion allyriadau carbon a gwelliant sylweddol i fioamrywiaeth yn yr ardal.

39.9 Megawat brig(MWp)

Tua 12,000 o gartrefi yn cael eu pweru y flwyddyn (cyfwerth)

Tua 18,000 tunnell fetrig o allyriadau carbon yn cael eu harbed

Cronfa budd cymunedol hyd at £581,000 dros oes y prosiect

Cwestiynau Cyffredin

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin lle cewch atebion i gwestiynau cyffredin.

Cwestiynau Cyffredin