Pam solar yn hytrach nag amaethyddiaeth?
Nid dewis yw hwn – gall prosiectau solar wneud y ddau. Mae’r gosodiad arfaethedig ar gyfer y prosiect solar wedi’i ddylunio yn y fath fodd fel y bydd y rhan fwyaf o’r glaswelltir agored ar y safle yn addas ar gyfer pori da byw bach, gan alluogi’r tir i gadw’r potensial ar gyfer defnydd amaethyddol.
A fydd yr ynni a gynhyrchir yn darparu trydan i gartrefi yn yr ardal?
Bydd y fferm solar yn cael ei chysylltu ag is-orsaf y Grid Cenedlaethol yng Nglan-bad, Pontypridd. Bydd y trydan a gynhyrchir yn dod i rwydwaith trosglwyddo’r Grid Cenedlaethol ac yn cael ei gludo ar draws Cymru.
Beth yw fferm solar a sut mae’n cynhyrchu trydan?
Mae fferm solar, y gellir ei hadnabod hefyd yn orsaf ynni solar neu barc solar, yn debyg i ffermydd cnydau confensiynol. Tra bydd ffermwr cnydau yn defnyddio ynni’r haul i helpu i dyfu eu cnydau, mae ffermydd solar yn defnyddio’r ynni o’r haul i’w droi’n drydan.
Mae fferm solar yn cynnwys cyfres o araeau solar sy’n dal yr holl baneli solar unigol (a elwir hefyd yn araeau ffotofoltäig). Mae’r ynni o’r haul wedi ei gasglu yn yr araeau hyn a’i drawsnewid yn drydan.
Caiff y trydan ei ddarparu’n uniongyrchol i’r Grid Cenedlaethol.
Ble mae fferm solar Glyn-taf?
Mae’r safle’n sefyll ar draws wardiau Canol Rhydfelin, Trallwng a Threfforest, ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, 2km i’r dwyrain o ganol tref Pontypridd.
Bydd y fferm solar yn cael ei lleoli ar tua 101 hectar (ha) o dir amaethyddol gradd 4 ar lethrau deheuol Comin Eglwysilan, i’r de-ddwyrain o Glwb Golff Pontypridd.
Ar gyfer beth y defnyddir y fferm ar hyn o bryd?
Defnyddir y safle ar hyn o bryd ar gyfer pori da byw.
Pam dewisoch chi’r safle hwn?
Mae’n wynebu’r de yn bennaf, ac felly’n cael adnodd solar da, ac mae’n agos at bwynt cysylltu â’r grid, a thrwy hynny’n sicrhau bod cymaint â phosibl o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn cael ei allforio i’r system rhwydwaith grid. Yn ogystal, nid yw’r safle’n cynnwys unrhyw Dir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas ac mae ganddo hefyd gysylltiadau trafnidiaeth da i darfu cyn lleied â phosibl ar y rhwydweithiau ffyrdd lleol yn ystod y gwaith adeiladu a datgomisiynu.
Pa fesurau diogelwch fydd yn cael eu rhoi ar waith?
Er mwyn sicrhau bod y fferm solar yn ddiogel i atal lladrad a sicrhau iechyd a diogelwch, bydd gan bob cae 2.0m o uchder ffensio ceirw/stoc.
Bydd perimedr y fferm solar yn cael ei warchod gan system TCC a fydd naill ai wedi’i osod ar bolion neu ffens, wedi’i leoli’n strategol o amgylch y safle. Bydd lleoliad y camerâu yn cael ei benderfynu’n derfynol unwaith y bydd y dyluniad wedi’i osod.
Sut bydd y fferm solar yn cael ei chysylltu â’r grid?
Bydd y datblygiad arfaethedig yn cysylltu â’r rhwydwaith trydan trwy geblau tanddaearol i Is-orsaf y Grid Cenedlaethol yng Nglan-bad, tua 4km o’r safle.
Faint o goed a gwrychoedd ydych chi’n rhagweld y bydd yn rhaid eu clirio i gyflawni’r cynnig hwn? Fyddwch chi’n plannu coed newydd?
Ni ragwelir y bydd unrhyw goed yn cael eu tynnu oherwydd y cynigion. Mae’n bosibl y bydd angen tocio coed er mwyn caniatáu mynediad. Nod y cynigion yw osgoi’r rhan fwyaf o wrychoedd presennol, eto efallai y bydd angen rhywfaint o waith tocio i ganiatáu mynediad diogel. Yn gyffredinol, y bwriad yw gwella’r gwrychoedd presennol o fewn y safle ymhellach drwy blannu ychwanegol.
Pa nodweddion ecolegol sydd ar y safle neu gerllaw iddo?
Mae’r safle wedi cael arolwg ecolegol llawn. Gan y bydd y cynllun yn cael ei leoli’n bennaf ar dir sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i bori defaid, y gobaith yw y bydd cyfle i gynyddu gwerth ecolegol y tir, mewn rhai mannau lle mae pori’n gyfyngedig.
Pa effaith bydd adeiladu a gweithredu’r fferm solar yn ei chael ar nodweddion ecolegol presennol y safle? A pha fesurau y byddwch chi’n eu rhoi ar waith i liniaru effaith y datblygiad?
Bydd y cynnig yn cymryd i ystyriaeth nodweddion lleol gan gynnwys yr ardal tirwedd arbennig.
Byddwn yn lleoli’r araeau i ymateb i nodweddion ffisegol presennol megis ffosydd, hawliau tramwy cyhoeddus, coed, llwybrau mynediad fferm presennol a gwrychoedd gyda rhesi wedi’u gosod yn ôl pellteroedd clustogi priodol yn unol â chanllawiau technegol.
Rydym yn cynnal arolygon safle manwl ac asesiadau pellach i adolygu’r holl effeithiau ar fioamrywiaeth ac archwilio cyfleoedd i wella bioamrywiaeth wrth ddatblygu ein cynigion manwl.
Fyddwch chi’n anelu at sicrhau enillion net bioamrywiaeth?
Byddwn, un o ofynion y broses gynllunio yw hyn. Bydd cyfuniad o fesurau yn cael eu dylunio gan ymgynghorwyr ecolegol a thirwedd.
Pa effaith bydd y prosiect yn ei chael ar fywyd gwyllt yr ardal?
Yn gyffredinol, mae prosiectau solar yn cynnig cryn botensial i gynyddu lefelau bioamrywiaeth, yn bennaf yn achos tirweddau amaethyddol. Trwy wrthdroi tueddiadau mewn dwysáu amaethyddol, meithrin, a chynnal cynefinoedd naturiol o fewn y matrics tirwedd a chreu microgynefinoedd sy’n bwysig i bryfed, mae ein prosiectau’n ffynhonnell dda ar gyfer lliniaru achosion dirywiad ym mhoblogaethau peillwyr (a achosir gan amaethyddiaeth), er enghraifft.
Mae peillwyr yn hynod bwysig i’n hecosystemau, gan helpu planhigion blodeuol i atgenhedlu, cynyddu heterogenedd a chysylltedd tirwedd, a gwella bioamrywiaeth yn gyffredinol. Mewn rhai o’n safleoedd rydym hyd yn oed yn gweithio gyda ffermwyr gwenyn lleol ac yn cynnal cychod gwenyn, oherwydd yr ecosystem mor amrywiol a gynhyrchir ar y safle.
Beth yw effeithiau gweledol y cynllun a sut mae effaith weledol y cynllun yn cael ei lliniaru?
Cynhelir asesiad o’r effaith weledol debygol arwyddocaol ar dirwedd a achosir gan y fferm solar a fydd yn nodi unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen. Dewiswyd y lleoliad er mwyn lleihau’r effeithiau ar amwynder preswyl lleol.
O ran dyluniad y fferm solar, bydd:
- mannau gwyrdd rhwng caeau
- araeau solar wedi’u rhannu gan ddyluniad y safle sydd heb fod yn unffurf – gweithio o amgylch waliau presennol, gwrychoedd, llwybrau troed a llinellau trydan.
I bobl sy’n defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus a Llwybr Beicio Cenedlaethol Taith Taf, fydd hyn yn effeithio arnyn nhw, ac a fyddan nhw’n gallu gweld y fferm solar?
Mae’r hawl tramwy yn torri drwy’r safle, felly bydd y fferm yn weladwy o’r llwybr. Bydd yr araeau solar yn cael eu lleoli bellter addas o’r llwybr er mwyn lleihau’r rhwystr i ddefnyddwyr.
Pa fesurau y byddwch yn eu rhoi ar waith i reoli draenio ac osgoi llifogydd?
Er nad oes unrhyw berygl llifogydd wedi’i nodi ar y safle, bydd seilwaith draenio’n cael ei gynnwys i sicrhau nad yw’r datblygiad yn achosi unrhyw ddŵr ffo ychwanegol. Bydd angen Asesiad Effaith Draenio yn rhan o’r cais cynllunio. Bydd hwn yn cael ei baratoi gan Ymgynghorydd arbenigol a benodir gan yr ymgeisydd. Byddant yn cysylltu â Thîm Perygl Llifogydd y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru ac yn cytuno ar y fethodoleg ofynnol. Bydd hyn yn sicrhau na fydd datblygu’n effeithio ar y risg o lifogydd dŵr wyneb lleol ac ar ôl datblygu y dylai unrhyw gyfraddau dŵr ffo fod yn well neu’n cyfateb i gyfraddau maes glas cyn datblygu. Bydd draenio dros dro priodol a phyllau setlo i reoli dŵr ffo a ragwelir oddi wrtho a bydd mannau gosod caeadleoedd hefyd yn eu lle yn ystod y gwaith adeiladu.
Mae unrhyw gyrsiau dŵr neu gyrff dŵr fel arfer yn cael eu clustogi rhag gwaith datblygu, fel arfer 5m yn dibynnu ar eu maint. Mae lleiniau ar lannau’r afon yn fan addas i’r ardaloedd sensitif hyn. Er mwyn osgoi halogi cyrsiau dŵr gan waith adeiladu, mae arferion gorau adeiladu a CEMP (Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu) yn cael eu paratoi i’w cymeradwyo yn rhan o’r cais cynllunio ffurfiol ynghyd ag unrhyw fesurau lliniaru sy’n ofynnol mewn perthynas â draenio, ecoleg a chyflenwadau dŵr.
A fydd y fferm solar yn cynyddu’r perygl o lifogydd?
Ni ragwelir y bydd y cynnig yn cynyddu’r perygl o lifogydd, ond bydd gwerthusiad technegol llawn yn cael ei gwblhau pan fydd y dyluniad manwl wedi’i gwblhau.
Fydd cynnydd mewn dŵr wyneb ffo oherwydd y fferm solar?
Mae Paneli PV wedi’u halinio i sicrhau bod dŵr glaw yn gallu mynd drwy’r araeau yn hawdd a gwasgaru’n gyfartal gan sicrhau na fydd dŵr ffo yn fwy o’i gymharu â’r safle cyn ei ddatblygu. Ymhellach, cedwir y llystyfiant presennol o dan y paneli i helpu i liniaru dŵr ffo a gwella’r gwanhau.
A fydd cyflenwadau dŵr preifat yn cael eu halogi?
Bydd presenoldeb unrhyw Gyflenwadau Dŵr Preifat (PWS) yn cael ei ganfod cyn cyflwyno cais am ganiatâd trwy Asesiad Dŵr Preifat. Bydd y rhain yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn yn briodol yn ystod y gwaith adeiladu a gweithredu. Nid oes unrhyw anghenion cyflenwad dŵr ar y safle y tu hwnt i fân ofynion lles, a gellir defnyddio tanciau i’r rhain.
Faint o symudiadau traffig ydych chi’n eu rhagweld bob dydd a pha fath byddan nhw?
Yn ystod y cyfnod adeiladu, rhagwelir y bydd rhai effeithiau dros dro ar drafnidiaeth a mynediad, yn enwedig o ystyried natur wledig y safle a’r ardal oddi amgylch. Ar hyn o bryd amcangyfrifir y bydd hyn oddeutu 20 symudiad HGV y dydd gyda 15-20 symudiad pellach y flwyddyn unwaith y bydd yn weithredol. Bydd asesiadau effaith traffig manwl a chynllun rheoli traffig yn cael eu darparu yn rhan o’r cais cynllunio.
Os rhoddir caniatâd cynllunio, pryd ydych chi’n meddwl y bydd y gwaith adeiladu’n dechrau?
Byddwn yn cyflwyno cynlluniau erbyn diwedd 2024, ac os caiff ei gymeradwyo, byddwn yn dechrau adeiladu yng nghanol 2026.
Oes potensial i ymestyn gweithrediad y fferm solar y tu hwnt i 35 mlynedd?
Byddai angen cais cynllunio pellach ar gyfer unrhyw estyniad i gyfnod gweithredu’r fferm solar. Felly, byddai unrhyw gynlluniau yn destun y craffu angenrheidiol.
Fydd effaith ar fynediad i rwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus (llwybrau troed a llwybrau ceffylau) yn ystod neu ar ôl y cyfnod adeiladu?
Ni fydd y cynigion yn effeithio ar y PRoW, gan gynnwys yn ystod y cyfnod adeiladu. Mae llwybrau troed yn croesi’r safle, ond ni fydd cyfyngiad ar eu mynediad. Bydd y rhain yn cael eu cynnal a’u gwella o bosibl, lle bo angen, a byddant yn parhau’n agored ac yn hygyrch i’r cyhoedd yn ystod y gwaith adeiladu.
Nid oes unrhyw Hawliau Tramwy Cyhoeddus newydd wedi’u cynllunio ar gyfer y cynllun. Bydd Hawliau Tramwy Cyhoeddus presennol yn cael eu cynnal, ac o bosibl eu gwella, lle bo angen.
Beth ydych chi’n mynd i’w ‘roi’ i’r gymuned leol ac am ba hyd?
Mae’r prosiect yn ystyried nifer o ffyrdd y gall gyfrannu at y gymuned leol ac mae’n croesawu unrhyw adborth ac awgrymiadau. Drwy ymgysylltu’n gadarnhaol â’r gymuned yn y gyfres gyntaf o Arddangosfeydd Cyhoeddus, mae ystyriaethau’n cynnwys cyfraniadau i glybiau lleol a banciau bwyd cymunedol, yn ogystal ag opsiynau perchnogaeth a rennir o’r prosiect ei hun. Bydd y rhain yn cael eu datblygu ymhellach dros weddill y cyfnod ymgynghori.
Fyddwch chi’n cefnogi busnesau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu a gweithredu?
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’r Cyngor a cheisio dod o hyd i gymaint o adnoddau â phosibl yn lleol. Bydd ein gweithlu hefyd yn cefnogi busnesau lleol yn y sectorau manwerthu a lletygarwch.
Fydd cyfle ar gyfer perchnogaeth leol a rhannu elw, gan roi buddiant breintiedig i bobl leol?
Mae gan Nadara ddiddordeb mewn clywed gan y gymuned leol ar syniadau sy’n ymwneud â pherchnogaeth gymunedol a sut y gallai’r cynllun hwn ddod â budd cymunedol lleol.
Faint bydd fy mil trydan yn lleihau?
Yn anffodus, nid darparwr ynni yw Nadara ac felly ni all ddarparu gostyngiadau cost i filiau ynni cartrefi. Fodd bynnag, mae’r prosiect yn ystyried nifer o ffyrdd eraill y gall gyfrannu at y gymuned leol ac mae’n croesawu unrhyw adborth ac awgrymiadau.