Lleoliad y safle

Byddai Fferm Solar Glyn Taf wedi’i lleoli tua 2 km i’r dwyrain o ganol tref Pontypridd.

Mae’r cynllun yn ymestyn i tua 71 hectar o dir amaethyddol gradd 4 ar lethrau deheuol Comin Eglwysilan, i’r de-ddwyrain o Glwb Golff Pontypridd.

Mae’r safle arfaethedig wedi’i leoli o fewn wardiau Canol Rhydfelin, Trallwng a Threfforest, Rhondda Cynon Taf.

Ynglŷn â'r cynnig

Mae’r cynnig ar gyfer y fferm solar 39.9 Megawat brig (MWp) yn cynnwys adeiladu fferm solar ffotofoltäig ar y ddaear, traciau mynediad cysylltiedig, ceblau tanddaearol, ffensys perimedr â chamerâu teledu cylch cyfyng a gatiau mynediad, caeadleoedd adeiladu dros dro a’r holl seilwaith grid ategol a gwaith tirlunio cysylltiedig.

Bydd y paneli solar yn rhesi gogwyddo sefydlog, deuwyneb, wedi’u gosod ar y ddaear. Byddant hyd at 3m o uchder ac yn cael eu cysylltu â ffrâm sy’n cael ei ddrilio i’r ddaear i ddyfnder o 1-2 metr ar y mwyaf. Bydd hyn yn achosi cyn lleied o aflonyddwch â’r ddaear ac yn lleihau’r effeithiau posibl ar archaeoleg is-wyneb anhysbys.

Mae’r dyluniad yn cynnwys darparu ffensys ceirw diogel sy’n rhedeg o amgylch perimedr y Fferm Solar Arfaethedig ac wedi’i osod yn ôl 5m oddi wrth ffiniau presennol y caeau. Bydd y ffens yn 2m o uchder â bwlch o 0.1m ar y gwaelod a fydd yn caniatáu mynediad i famaliaid llai.

Bydd yr holl geblau ar y safle yn cael eu lleoli o dan y ddaear.

Bydd gan y paneli arwyneb anadlewyrchol, a fydd yn cynyddu cyfran yr ymbelydredd solar a amsugnir, gan ddileu’r risg o adlewyrchiad a llacharedd digroeso.

Bydd y paneli’n trosi’r ynni o olau’r haul yn drydan. Byddai hyn yn ddefnydd dros dro o dir fferm y gellir ei wrthdroi’n hawdd ar ddiwedd ei oes weithredol.

Diweddariadau ar y cynnig

Rydym yn ddiolchgar am yr holl adborth a dderbyniwyd yn ystod ein hymgynghoriad anffurfiol yn ystod haf 2024. Mae’r adborth hwn wedi chwarae rhan hanfodol wrth lunio esblygiad y prosiect.

Yn seiliedig ar yr adborth hwnnw, mae ymchwiliadau safle ac arolygon ychwanegol wedi cael eu cynnal, ac rydym wedi gwneud newidiadau i’r prosiect, fel a ganlyn:

  • Wedi lleihau arwynebedd cyffredinol y safle yn sylweddol o 101 hectar i 71 hectar.
  • Wedi cael gwared â lleiniau tir penodol lle nodwyd cyfyngiadau megis bioamrywiaeth, perygl llifogydd, neu sensitifrwydd tirwedd.
  • Wedi mireinio safle seilwaith i leihau effeithiau gweledol ac amgylcheddol posibl.
  • Gwelliannau tirwedd ac ecolegol ychwanegol arfaethedig i integreiddio’r datblygiad yn fwy effeithiol o fewn yr amgylchoedd.

Mae’r newidiadau dylunio hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu cynllun ynni adnewyddadwy cynaliadwy a chytbwys sy’n gwneud y mwyaf o gynhyrchu ynni glân tra’n parchu cyd-destun amgylcheddol a chymunedol y safle.

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y dyluniad terfynol yn parhau yn gyfnaws ag arferion gorau ac ystyriaethau lleol. Rydym bellach yn cynnal ein hymgynghoriad statudol, cyn cyflwyno cais cynllunio Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.

Cysylltiadau grid

Mae’r safle mewn lleoliad delfrydol ar gyfer mynediad i’r rhwydwaith grid trydan lleol, sef oddeutu 4.8km o’r is-orsaf agosaf yng Nglan-bad, Trefforest.

Bydd y trydan a gynhyrchir yn dod i rwydwaith trosglwyddo’r Grid Cenedlaethol ac yn cael ei gludo ar draws Cymru.

Ystyriaethau amgylcheddol

Mae arolygon wedi’u cynnal ar ystod o ystyriaethau, gan gynnwys ecoleg, tirwedd ac effaith weledol, treftadaeth ac archaeoleg a sŵn i lywio dyluniad terfynol y fferm solar.

Mae ein hastudiaethau wedi cael eu cynnal i sicrhau ein bod ni’n nodi unrhyw effeithiau posibl ac yn rhoi mesurau lliniaru priodol ar waith ar gyfer y prosiect.

Effaith ar y dirwedd ac effaith weledol

Mae Asesiad o’r Effaith ar y Dirwedd ac Effaith Weledol (LVIA) sy’n cefnogi’r cais cynllunio drafft wedi cynnal asesiad manwl o olygfannau allweddol o amgylch y safle.

Yn ystod ein hymgynghoriad anffurfiol, fe wnaeth rhanddeiliaid nodi ardaloedd penodol â golygfeydd mwy agored o’r safle datblygu. Rydym wedi ymgymryd â ffotograffiaeth tirwedd ychwanegol a ffotogyfosodiadau i lywio’r astudiaethau gweledol angenrheidiol gan ganiatáu i’r dyluniad gael ei fireinio i sicrhau bod y fferm solar yn eistedd yn fwy cytûn o fewn yr amgylchedd o’i chwmpas.

Mae’r Datblygiad Arfaethedig wedi’i ddylunio’n sensitif i integreiddio â’r dirwedd a phatrymau llystyfiant a chaeau presennol. Mae’r paneli solar wedi’u lleoli i ffwrdd o eiddo preswyl, coetir hynafol, coetir a gwrychoedd, Hawliau Tramwy Cyhoeddus, a chyrsiau dŵr.

Yn ogystal, cynigir gwella triniaethau ffiniau a strategaethau sgrinio a phlannu a ystyriwyd yn ofalus gan ddefnyddio rhywogaethau coed a gwrychoedd brodorol i leddfu golygfeydd o’r Datblygiad Arfaethedig.

Hydroleg

Mae cyfres o astudiaethau wedi’u cynnal o’r safle er mwyn darparu dealltwriaeth fanwl o’r amgylchedd dŵr presennol a chyflwr y tir. Roedd hyn yn cynnwys asesiadau desg a sawl cam o waith maes.

Mae’r Asesiad Risg Llifogydd ac Effaith Draenio (FRADIA) cynhwysfawr sy’n cefnogi’r cais cynllunio drafft wedi gwerthuso risg llifogydd posibl a gofynion rheoli dŵr wyneb. Yn seiliedig ar yr asesiad hwn, mae’r Datblygiad Arfaethedig yn ymgorffori datrysiadau draenio cynaliadwy (SuDS), megis pantiau, basnau gwanhau, a chlustogfeydd â llystyfiant, er mwyn rheoli dŵr ffo wyneb yn effeithiol a lleihau perygl llifogydd i lawr yr afon.

Er mwyn diogelu cyrsiau dŵr lleol ymhellach, bydd y datblygiad arfaethedig yn gweithredu strategaethau atal a lliniaru llygredd llym megis clustogfeydd dynodedig o amgylch cyrff dŵr i gynnal prosesau hidlo naturiol a diogelu cynefinoedd dyfrol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cynllun ynni adnewyddadwy cyfrifol ac amgylcheddol sensitif sy’n diogelu adnoddau dŵr lleol tra’n cyfrannu at y newid i ynni glân.

Mynediad, traffig a thrafnidiaeth

Y prif bwynt mynediad i’r safle sy’n cael ei ystyried yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu ar hyn o bryd yw trwy Fferm Bryntail trwy Bryntail Lane.

Rydym wedi ymrwymo i reoli traffig yn ofalus a lleihau aflonyddwch yn ystod cyfnodau adeiladu a gweithredu’r fferm solar.

Cyfnod adeiladu

Os rhoddir caniatâd, disgwylir i’r gwaith adeiladu gymryd 12 mis. Ar hyn o bryd amcangyfrifir bod y traffig adeiladu tua 20 symudiad HGV y dydd.

Bydd Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu (CTMP) yn ei le i sicrhau bod holl symudiadau cerbydau wedi’u cynllunio a’u rheoli’n dda. Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd traffig yn cael ei reoli drwy:

  • Lwybrau mynediad cytunedig – Gweithio gydag awdurdodau lleol, yn enwedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, i osgoi ardaloedd sensitif a lleihau’r effaith ar ffyrdd lleol.
  • Oriau rheoledig – Dim traffig adeiladu yn ystod oriau cymudo brig na’r cyfnod gollwng/casglu o’r ysgol.
  • Mesurau tawelu traffig – gan gynnwys mannau pasio lle bo angen i sicrhau symudiadau cerbydau diogel ar ffyrdd gwledig cul.

Cyfnod gweithredol

Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y fferm solar yn cynhyrchu ychydig iawn o draffig gyda dim ond rhwng 15 ac 20 symudiad cerbyd y flwyddyn ar gyfer ymweliadau cynnal a chadw. Bydd gan y safle ardaloedd storio dynodedig ar gyfer:

  • Storio deunyddiau dros dro yn ystod y gwaith adeiladu.
  • Cydrannau sbâr ac offer cynnal a chadw hanfodol.
  • Canolfan ar gyfer unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol dros oes y fferm solar.

Lleihau effaith leol

Er mwyn lleihau aflonyddwch lleol, byddwn yn:

  • Gweithredu amserlen gyflenwi strwythuredig i atal tagfeydd.
  • Defnyddio strategaeth mynedfa ac allanfa safle ddynodedig ar gyfer mynediad diogel ac effeithlon.
  • Cyfathrebu’n rheolaidd â’r gymuned leol ynghylch llinellau amser adeiladu ac unrhyw fesurau traffig dros dro.

Bydd y mesurau hyn yn sicrhau bod y fferm solar yn cael ei datblygu a’i chynnal â’r effaith leiaf bosibl ar ffyrdd lleol, cymunedau a’r amgylchedd cyfagos.

Fflachiau a Llacharedd

Mae Asesiad Fflachiau a Llacharedd sy’n cefnogi’r cais cynllunio drafft wedi cynnal dadansoddiad trylwyr o unrhyw effeithiau adlewyrchol posibl o’r paneli solar arfaethedig.

Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith fod technoleg paneli solar modern wedi’i dylunio’n benodol i leihau fflachiau a llacharedd. Bydd y paneli ffotofoltäig (PV) a gynigir yn cael eu gorchuddio â deunyddiau gwrth-adlewyrchol sy’n lleihau adlewyrchiad arwyneb yn sylweddol, a’u prif swyddogaeth yw amsugno golau’r haul yn hytrach na’i adlewyrchu, gan sicrhau’r effeithlonrwydd ynni mwyaf posibl. Ystyrir felly fod lefel y golau adlewyrchiedig o baneli solar yn sylweddol is nag o arwynebau cyffredin megis dŵr, ffenestri gwydr, neu sgriniau gwynt ceir.

Sŵn

Mae paneli solar yn gweithredu’n dawel, gyda’r unig sŵn posibl yn dod o orsafoedd gwrthdröydd, sy’n hanfodol ar gyfer trosi trydan. Mae gwrthdroyddion modern yn cynhyrchu lefelau sŵn isel yn ystod y dydd ac maen nhw’n yn segur yn y nos. Mae’r datblygiad arfaethedig wedi sicrhau bod y rhain wedi’u lleoli’n ofalus i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosibl i’r gymuned.

Mae Asesiad Effaith Sŵn (NIA) wedi cael ei gynnal i gefnogi’r cais cynllunio drafft. Mae’r NIA yn cadarnhau cydymffurfiaeth â chyfyngiadau sŵn derbyniol.

Ecoleg

Nid yw’r Datblygiad Arfaethedig yn gorwedd o fewn nac yn gyfagos i unrhyw safleoedd amgylcheddol dynodedig statudol. Y safleoedd dynodedig agosaf yw Gwarchodfa Natur Leol Craig-yr-Hesg (coetir), a leolir tua 1.5km i’r gogledd-orllewin a SoDdGA Coetir Nant Gelliwion, a leolir tua 3km i’r gorllewin.

Mae arolygon ecolegol amrywiol wedi’u cynnal gan gynnwys adar sy’n gaeafu ac sy’n magu, Madfallod Dŵr Cribog, ystlumod, moch daear, dyfrgwn, llygod dŵr, amffibiaid ac ymlusgiaid. Mae ein harolygon yn dangos na ragwelir unrhyw effeithiau arwyddocaol ar unrhyw rywogaethau na chynefinoedd ar y safle.

Bydd y prosiect yn dod â budd net i fioamrywiaeth yn ystod ei oes trwy greu cynefinoedd newydd sy’n cynnig bwyd a lloches i fywyd gwyllt, gan gynnwys rhywogaethau â blaenoriaeth ac adar sy’n bridio.

Treftadaeth Ddiwylliannol

Mae’r safle wedi cael ei arolygu’n helaeth gan dîm y prosiect ac mae arolwg geoffisegol wedi cael ei gynnal i asesu unrhyw nodweddion archaeolegol posibl o fewn y safle.

Mae Asesiad o’r Effaith ar Dreftadaeth Ddiwylliannol (CHIA) wedi cael ei gynnal i werthuso ac asesu effeithiau posibl y fferm solar ar asedau treftadaeth hysbys a heb eu darganfod. Crynhoir asedau treftadaeth a safleoedd archaeolegol a gofnodwyd o fewn yr ardaloedd astudiaeth perthnasol o 5km ac 1km isod. O fewn 5km i’r Safle Datblygu Arfaethedig mae cyfanswm o:

  • 21 o Henebion Cofrestredig;
  • Un Parc a Gardd Hanesyddol;
  • Un Dirwedd Hanesyddol;
  • Dim Meysydd Brwydrau Cofrestredig;
  • Dim Safleoedd Treftadaeth y Byd;
  • Tri Adeilad Rhestredig Gradd I;
  • 22 o Adeiladau Rhestredig Gradd II*;
  • 123 o Adeiladau Rhestredig Gradd II; a
  • Naw Ardal Gadwraeth.

Mae canfyddiadau’r asesiad wedi helpu i arwain mesurau lliniaru, megis dylunio safle a sgrinio sensitif, i sicrhau bod y fferm solar yn integreiddio’n barchus â chymeriad hanesyddol yr ardal tra’n cefnogi’r newid i ynni adnewyddadwy.

Yn ystod y gwaith adeiladu, byddwn yn gweithio’n agos gydag arbenigwyr treftadaeth ac awdurdodau lleol yn penodi i fonitro gweithgareddau adeiladu’n agos a sicrhau, os bydd unrhyw asedau treftadaeth anhysbys yn cael eu darganfod, y caiff y rhain eu cofnodi a’u diogelu ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu, sy’n annhebygol o ddigwydd.

Hawliau tramwy cyhoeddus (PRoW)

Ni fydd y Datblygiad Arfaethedig yn effeithio ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus (PRoW), gan gynnwys yn ystod y cyfnod adeiladu. Mae tri PRoW sy’n rhedeg ar draws y safle a bydd y rhain yn cael eu cynnal a’u cadw a’u clustogi’n briodol. Bydd y rhain yn parhau ar agor ac yn hygyrch i’r cyhoedd yn ystod y gwaith adeiladu.

Nid oes unrhyw Hawliau Tramwy Cyhoeddus newydd wedi’u cynllunio ar gyfer y cynllun.

Amserlen y prosiect

Rydym wedi cynnal arolygon safle ac asesiadau amgylcheddol i lywio’r gwaith o baratoi cais cynllunio ac rydym wedi cyflwyno cais Cyfarwyddyd Cwmpasu Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) i PINS.

Byddwn yn ymgynghori’n rhagweithiol â’r gymuned leol ar y dyluniad sy’n datblygu cyn cyflwyno’r cais cynllunio.

Rydym am sicrhau bod y gymuned yn cael yr holl wybodaeth sydd ar gael am y cynnig ac yn cael pob cyfle i ofyn cwestiynau a rhoi eu barn er mwyn sicrhau’r budd mwyaf i’r ardal leol a’r bobl sy’n byw yno.

Dilynwch ein taith i ddatgarboneiddio

2021 – 2023

  • Dewis safle
  • Arolygon safle
  • Asesiadau amgylcheddol
  • Cytundeb perchennog tir wedi’i lofnodi

Gwanwyn 2024

  • Ymgysylltu cynnar â rhanddeiliaid
  • Astudiaethau dichonoldeb

Haf 2024

  • Ymgynghoriad anffurfiol

Gwanwyn 2025

  • Ymgynghoriad statudol ar gynigion manwl.
  • Cyflwyno’r cais i PEDW
  • Ymgynghoriad PEDW ar y Cais DNS

Gaeaf 2025

  • Penderfyniad ar y Cais DNS

Haf 2026

  • Gwaith adeiladu yn dechrau – disgwylir i hyn gymryd tua 12 mis

Hydref 2027

  • Fferm solar yn dod yn weithredol