Datganiad GDPR
Bydd Nadara yn defnyddio ac yn storio’r wybodaeth a ddarperir gennych yn unol â’r GDPR (Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data).
Sut bydd Nadara yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn amdanoch?
Byddwn ni’n defnyddio’ch data personol a gesglir drwy’r ymgynghoriad hwn at ein dibenion busnes cyfreithlon, gan gynnwys:
- Dadansoddi eich adborth i’r ymgynghoriad
- Cynhyrchu Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio yn seiliedig ar ein dadansoddiad o ymatebion (ni chaiff unigolion eu nodi yn yr Adroddiad)
- Ysgrifennu atoch gyda diweddariadau am ganlyniadau’r ymgynghoriad a datblygiadau eraill os ydych wedi optio i mewn i dderbyn y diweddariadau hyn
- Cadw cofnodion cyfredol o’n cyfathrebiadau ag unigolion a sefydliadau.
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei chynnwys yn y ffurflen hon yn cael ei thrin a’i defnyddio gan y derbynwyr canlynol (neu bydd ar gael iddynt) i’w chofnodi, i’w dadansoddi ac i adrodd ar yr adborth a gawn:
- Nadara
- Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) pwy fydd yn ystyried ein cais am ganiatâd i adeiladu Fferm Solar Glyn Taff. Os cytunir yma, cewch glywed gan PEDW am ei ymgynghoriad ar ôl i Nadara gyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer y ddau gynnig.
- Ein cynghorwyr cyfreithiol
- Y Gweinidogion Cymreig
- Ymgynghorwyr yn gweithio ar Fferm Solar Glyn Taf
Pa hawliau sydd gennyf dros fy nata personol?
O dan delerau GDPR y DU, mae gennych hawliau penodol ynghylch sut mae eich data personol yn cael eu cadw a’u defnyddio gan Nadara.
Am ragor o wybodaeth am sut mae Nadara yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan: www.glyntaffsolar.co.uk/cy/polisi-preifatrwydd/